Mae Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru wedi cyhoeddi mai ei Brif Weithredwr nesaf, ar ôl ymddeoliad y Parch Ganon Aled Edwards OBE, fydd y Parch Siôn Brynach.

08/06/2017 Pics (C) , Cardiff Hanfod Cymru, Sion Brynach mail@huwjohn.com www.huwjohn.com M: 07860 256991

Gan siarad heddiw, dywedodd Cadeirydd Cytûn, Dr Patrick Coyle :

“Mae trosglwyddo cyfrifoldebau’r Prif Swyddog bob amser yn gyfnod o gyffro ac edrych tua’r dyfodol. Edrychwn yn ôl gyda diolchgarwch aruthrol am y gwasanaeth hir a chlodwiw a roddwyd gan y Parch Ganon Aled Edwards yn ystod cyfnod o newid mawr i Eglwysi ac i bobl Cymru. Edrychwn ymlaen yn awr at fanteisio ar y profiad eang a ddaw yn sgil gyrfa flaenorol Siôn yn yr Eglwys, cysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus. Gwn bod ganddo ffydd Gristnogol ddofn a gwybodaeth am eciwmeniaeth yng Nghymru a thu hwnt.”

Mae Siôn Brynach bellach yn Bennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Cyngor Celfyddydau Cymru, ar ôl bod yn Brif Weithredwr Hanfod Cymru (2017-18), yn Ymgynghorydd Atebolrwydd dros Ymddiriedolaeth y BBC am ddeng mlynedd (2006-2017), arweinydd tîm y wasg a chyfathrebu’r Archesgob ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru (2000 a diwedd 2006) a British Gas (1996-2000). Cafodd ei ordeinio’n ddiacon yn yr Eglwys yng Nghymru yn 2020 ac yn offeiriad yn 2022 ac mae wedi gwasanaethu fel curad cynorthwyol hunangynhaliol yn Eglwys Crist, Parc y Rhath, Caerdydd ers 2020. Cafodd ei eni ym Mangor a’i fagu yn Nyffryn Nantlle a Gorseinon, ac mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf gyda gogledd Sir Benfro a Cheredigion hefyd. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Mae’n byw yng Nghaerdydd ers 1993, yn briod â Cathrin ac mae ganddynt bedwar o blant. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl.

Heddiw, dywedodd Siôn:

“Pleser o’r mwyaf yw cael fy mhenodi i’r swydd gyffrous a phwysig hon ond ar yr un pryd rwy’n ymwybodol iawn fy mod yn dilyn ôl traed rhai cewri go iawn ym maes eciwmeniaeth fel y Parch Noel Davies a’r Parch Gethin Abraham-Williams. Mae fy rhagflaenydd, y Canon Aled Edwards, hefyd wedi gwneud llawer i ddod â’r eglwysi i’r amlwg yn sylw’r cyhoedd yng Nghymru yn ogystal â datblygu perthynas adeiladol gyda gwleidyddion a Llywodraeth Cymru. Gobeithio y byddaf yn gallu adeiladu ymhellach ar y sylfeini pwysig hyn ar ôl i mi ymgymryd â’r swydd hon.

“Mewn cyfweliad ar gyfer y swydd hon, tynnais sylw at heriau a pheryglon y neo-lwythiaeth y mae academyddion wedi’u nodi fel nodwedd o’n cymdeithas gyfoes a her sydd wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae gan yr eglwysi swyddogaeth bwysig o ran pontio’r carfannau hynny. Ond mae Duw yn ein caru oll yn gyfartal.

“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddatblygu cysylltiadau pellach gydag eglwysi tu hwnt i Gymru yn ogystal â chymunedau ffydd eraill yng Nghymru a thyfu fy nealltwriaeth bersonol o sut y gallem fynd ati i gydweithio fel enwadau Cristnogol a gwahanol grefyddau er gogoniant Duw.”

Bydd Siôn yn dechrau fel Prif Weithredwr Cytûn 1 Ebrill 2023.