HYBU DINASYDDIAETH FYD-EANG YNG NGHWRICWLWM YSGOLION CYMRU

Mae ysgolion cynradd yng Nghymru yn cael eu gwahodd i ymuno â chynllun newydd sydd â’r nod o helpu disgyblion i ddatblygu eu dinasyddiaeth fyd-eang. Mae Cymorth Cristnogol, a’r Eglwys yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i lansio Cymdogion Byd-eang.

Mae’r cynllun achredu, sydd ar agor i bob ysgol gynradd yng Nghymru, ar dair lefel – Efydd, Arian ac Aur – a meini prawf sy’n annog dysgwyr i ddatblygu eu myfyrio a’u gweithredoedd.

Meddai Rebecca Elliott, Swyddog Ieuenctid ac Addysg Cymorth Cristnogol Cymru fod y cynllun yn hybu gwerthoedd y mudiad o urddas, cyfiawnder, cydraddoldeb a chariad i bawb, yn ogystal â’r sail Gristnogol y dylai pawb gael y cyfle i brofi bywyd yn ei holl gyflawnder. Esboniodd: “Credwn fod gan blant ymdeimlad cynhenid o gyfiawnder cymdeithasol a phryder cryf am y Ddaear, ein cartref cyffredin. Mae Cymdogion Byd-eang yn annog disgyblion i archwilio sut mae penderfyniadau a chamau gweithredu yn effeithio arnyn nhw ac ar y gymdeithas ehangach.”

Yn ogystal â dysgu am faterion fel cyfiawnder hinsawdd a beth yw bod yn wrth-hiliol, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithredu yn eu hysgol ac yn y gymuned leol fydd yn cyfrannu at gwell byd yn bell ac agos.  Rhan bwysig o’r prosiect yw cael y cyfle i wahodd eu cymuned, gan gynnwys arweinwyr cymunedol, i weld eu gwaith er mwyn gallu rhannu eu pryderon a’u dyheadau.

Mae’r adnodd bydd yr ysgolion yn ei ddefnyddio yn cynnwys rhagair gan Archesgob Cymru Y Parchedicaf Andy John lle mae’n dweud: “Wrth i anghyfiawnderau byd-eang gynyddu o un flwyddyn i’r llall, wrth i’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd dyfu’n lletach a lletach, ac wrth i’r bygythiadau i harddwch a hyd yn oed fodolaeth ein byd naturiol dyfu, ein dyletswydd yw ennyn y plant a’r bobl ifanc yn ein hysgolion i drafod y materion sy’n creu her i gymaint, yn ogystal ag ymddygiadau enghreifftiol sy’n dangos y gallan nhw hefyd fod yn gyfryngau newid.”

Ychwanegodd Rebecca: “Y nod yw grymuso pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gwybodus, moesegol sy’n chwarae eu rhan mewn herio anghyfiawnder byd-eang. Gobeithiwn y byddan nhw’n dod yn fwy ymwybodol o’u rôl a’u llais yn eu cymuned, Cymru a’r byd ehangach. Rydyn ni’n gwybod bod ysgolion yng Nghymru eisoes yn gwneud gwaith gwych mewn dinasyddiaeth fyd-eang ac rydyn ni’n gyffrous i weld beth fydd yn digwydd wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith Cymdogion Byd-eang.”

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i www.caid.org.uk/cbyd-eang .

Lluniau: disgyblion Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, y Wig a Marcroes, Bro Morgannwg (Cymorth Cristnogol)

CEFNOGI PLANT TRAWS AC ANNEUAIDD YN YSGOLION CYMRU

Ers peth amser, bu Cytûn, ynghyd â chynrychiolwyr crefyddol eraill, yn cwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru sydd yn datblygu canllawiau i ysgolion am gefnogi plant trawsryweddol ac anneuaidd. Cyfraniad Cytûn ar hyd y trafodaethau oedd cyfleu y rhychwant eang o farn sydd ymhlith aelod eglwysi Cytûn ar y materion hyn. Fe fu cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yn cyfarfod â’r Llywodraeth ar wahân ar ran eu hysgolion nhw.

Fe fu disgwyl lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y pwnc hwn ar ôl y Pasg, ond ar Fai 1 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru iddynt benderfynu gohirio’r ymgynghoriad hwnnw er mwyn cymryd i ystyriaeth casgliadau Adolygiad Cass o wasanaethau hunaniaeth rhywedd ar gyfer plant a phobl ifainc a gyhoeddwyd ar Ebrill 10. Comisiynwyd yr adroddiad hwnnw gan Wasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Lloegr, ond i wasanaethau yn Lloegr y cyfeirir pobl ifainc yng Nghymru, felly bydd y casgliadau yn berthnasol i Gymru hefyd. Ar Fai 1, cafwyd dadl yn Senedd Cymru a drefnwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac ar ddiwedd y ddadl, cytunwyd y cynnig hwn (wedi ei ddiwygio) yn unfrydol:

Cynnig bod y Senedd:        
1. Yn nodi cyhoeddi adolygiad Cass.      
2. Yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan y GIG yn Lloegr.
3. Yn nodi bod y GIG yn Lloegr wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.  
4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu’r canllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion, gan ystyried adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid.

Mae rhai o aelod eglwysi Cytûn wedi cyhoeddi datganiadau am hunaniaeth trawsryweddol ac anneuaidd. Y diweddaraf yw Myfyrdod Bugeiliol am Rywedd gan Esgobion Catholig Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ar Ebrill 24. Ymhlith datganiadau blaenorol mae Datganiad Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr) am groesawu pobl trawsryweddol ac anneuaidd yn 2021 a chyfraniad gan bobl ifainc, traws, anneuaidd, Methodistaidd (2023), ymhlith eraill.

Bydd Cytûn yn parhau i chwarae ei ran yn y trafodaethau â Llywodraeth Cymru ar y mater sensitif hwn trwy gynrychioli safbwyntiau ein holl aelod eglwysi.

Cryfhau Effaith Cymdeithas Sifil ar San Steffan yn y Blynyddoedd i Ddod

Ymgasglodd dros 90 o arbenigwyr cymdeithas sifil o bob rhan o’r DU – gan gynnwys tri yn cynrychioli Cytûn a’i haelod eglwysi a’r Esgob Rowan Williams fel siaradwr– ym Mae Caerdydd ar 21-22 Mawrth i nodi blaenoriaethau allweddol a rennir yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol a thu hwnt. Wedi’i ariannu gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol, cynhaliwyd y digwyddiad proffil uchel hwn gan WCVA a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, mewn partneriaeth â Chynghrair Cymdeithas Sifil y DU (CSA) a’r Consortia Hawliau Dynol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Mae Cytûn yn aelod o’r CSA a WCVA.Mewn araith gyweirnod, siaradodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS (yn y llun), am y rôl werthfawr sydd gan gymdeithas sifil i’w chwarae wrth lunio polisïau’r DU ac wrth gysylltu cymunedau â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Rhannodd cyn Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford AS ei chwe awgrym ar gyfer dylanwadu ar lwyddiant: “Byddwch yn ddilys – yn awdurdodol – yn lleol – yn lleisiol – yn feiddgar – Byddwch yno (lle gwneir penderfyniadau).”

Bu academyddion, ymgyrchwyr ac arweinwyr elusennau yn trafod yr heriau a’r cyfleoedd o ddod â lleisiau cymunedol o bob un o bedair rhan y DU i drafod datblygiadau yn San Steffan. Roedd y pynciau’n cynnwys gweithrediad datganoli, sut mae elusennau’n ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau datganoledig a chanolog, a datblygiadau ynghylch diwygio cyfansoddiadol.

Llun: Cynghrair Cymdeithas Sifil

NODI 25 MLWYDDIANT DATGANOLI AC EDRYCH I’R DYFODOL

Mai 7 oedd union 25 mlwyddiant cyhoeddi canlyniadau yr etholiad cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd). Nodwyd yr achlysur yn y Siambr gyda datganiad gan y Prif Weinidog, Vaughan Gething AS, gyda thrafodaeth yn dilyn, y cyfrannwyd ati gan aelodau o’r pedair plaid sydd yn Senedd Cymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Mr Gething, Ymhell o fod yn siop siarad fel roedd llawer yn ei ofni, mae datganoli wedi cyflwyno gwleidyddiaeth flaengar ac wedi helpu i feithrin Cymru hyderus, fodern ac sy’n edrych tuag allan. Pa ochr bynnag yr oedd pobl arni yn y refferendwm, a beth bynnag fyddo eich barn am bolisïau Llywodraeth Cymru, mae datganoli yn perthyn i’r holl bleidiau yn y Siambr hon a holl bobl Cymru heddiw. Roedd arweinyddion y gwrthbleidiau, Andrew RT Davies AS (Ceidwadwyr Cymreig) a Rhun ap Iorwerth AS (Plaid Cymru) yn awyddus i nodi’r gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Senedd, ac am dadogi yr hyn a welent hwy yn fethiannau dros y chwarter canrif i’r Llywodraeth yn hytrach nag I ddatganoli fel y cyfryw. Er i’r drafodaeth barhau am dros awr, roedd hi’n nodedig – fel y dengys y llun ar y chwith – fod nifer o seddi gwag yn y Siambr yn ystod y drafodaeth.

Ond y diwrnod wedyn, cymerodd pob aelod ran yn y bleidlais derfynol am Fil Senedd Cymru (Aelodaeth ac Etholiadau), a basiwyd trwy fwyafrif o dros dwy ran o dair, fel yr oedd ei angen. Bydd y Bil hwn yn cynyddu maint Senedd Cymru o 60 i 96 aelod yn dilyn yr etholiad nesaf ym Mai 2026. Mae hefyd yn newid y drefn bleidleisio. Yn hytrach na phleidleisio dros unigolyn i gynrychioli eu hetholaeth a hefyd dros restr bleidiol ar gyfer eu rhanbarth, bydd gan bob pleidleisiwr un bleidlais yn unig, a hynny ar gyfer rhestr bleidiol yn unig ar gyfer etholaeth fydd dros ddwywaith maint yr etholaeth bresennol. Bu cryn feirniadu ar y newid hwn o fewn y Senedd a’r tu hwnt iddo, gydag Esgob Llanelwy, y Gwir Barchg Gregory Cameron, yn dweud mewn neges i’w glerigion ar Ddydd Gŵyl Ddewi eleni, Y blaid, nid y pleidleiswyr, fyddai’n cael dewis pwy fyddai’n ein cynrychioli. Mae hyn yn newyddion drwg, achos mae’n torri’r cysylltiad rhwng cynrychiolaeth leol a pherfformiad aelodau unigol o’r Senedd. Byddai’n bosib i rywun y mae’r etholwyr yn ei gasáu gael ei ethol gan ei fod yn ffefryn gan y blaid. Mae hynny’n ffafrio rhywun sy’n “gi bach” i’r blaid yn hytrach na gwleidydd sy’n atebol yn lleol. Serch hynny, nid oes yr un o eglwysi Cytûn wedi gwrthwynebu’r drefn newydd yn ffurfiol, ac fe fydd yn cael ei chyflwyno.

Mae yna fil arall am y drefn bleidleisio, sef Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn cael ei drafod yn Senedd Cymru. Y bwriad yw sicrhau cynrychiolaeth gyfartal rhwng menywod a’r rhai nad ydynt yn fenywod (i ddefnyddio terminoleg y Bil). Mae Llywydd y Senedd a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi datgan nad ydynt yn credu fod y newid hwn o fewn pwerau Senedd Cymru, ac felly hyd yn oed o’i basio nid yw’n sicr y byddai’n dod yn gyfraith ac yn cael ei weithredu. Nid oes unrhyw un o aelod eglwysi Cytûn wedi mynegi barn am y Bil hwn hyd yma.

Llun: Senedd.tv (Hawlfraint Comisiwn Senedd Cymru)

DIFFYG YSTADEGAU AM GREFYDD A CHRED NGHYMRU

Sefydlwyd Panel Defnyddwyr Ystadegau’r Trydydd Sector Cymru (TSSUP) gan Lywodraeth Cymru yn 2016 i dynnu ynghyd gynrychiolwyr o’r trydydd sector i helpu i ddeall eu hanghenion am wybodaeth ystadegol, eu hysbysu am ddatblygiadau mewn gwybodaeth ystadegol sydd ar gael am Gymru ac ymgynghori â nhw am ddatblygiadau mewn perthynas ag ystadegau. Mae gwybodaeth am y Panel a’r Cylch Gorchwyl ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Cynhelir cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn, ac fe’u cadeirir gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru, Stephanie Howarth.

Mae Carys Moseley yn cynrychioli Cytûn ar y grŵp. Mewn cyfarfod diweddar, cafodd Carys ei hun yn pryderu am ddiffyg ystadegau digon manwl am gefndir ffoaduriaid yng Nghymru, gan gynnwys ffoaduriaid Cristnogol a allai fod yn mynychu ein heglwysi. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi mynegi yn ei adroddiad A Yw Cymru’n Decach fod diffyg ystadegau am ymlyniad crefyddol yng Nghymru. Heb dystiolaeth am niferoedd y bobl sydd o gefndir penodol gall mythau di-sail gael eu pedlera (e.e. fod pob ceisiwr lloches yn Fwslim), gan olygu nad ymatebir yn briodol i anghenion crefyddol a diwylliannol pobl. Mae ystadegau Cyfrifiad 2021 am grefydd eisoes yn dyddio, a mae Cytûn yn ymwybodol fod CYSau (Cynghorau Ymgynghorol Statudol sy’n cynghori awdurdodau lleol am Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac addoli ar y cyd yn eu hysgolion) yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i sicrhau cynrychiolaeth gymesur o’r crefyddau yn eu hardal.

Mae yna holiadur byr ar wefan Stats Cymru sy’n rhoi cyfle i gyflwyno adborth am faterion fel hyn, ac mae Carys am annog darllenwyr i gyflwyno sylwadau – Arolwg adborth defnyddwyr Stats Cymru (smartsurvey.co.uk)  Mae’r holiadur yn gofyn am sylw ar ystadegau penodol ar y wefan, ond os nad ydych wedi cyrchu’r wefan am ryw reswm arall gallwch gyfeirio at crefydd – mae’r ychydig ystadegau am grefydd sydd ar gael fan hyn: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Equality-and-Diversity/Religion/annual-population-survey

ETHOLIAD CYFFREDINOL 2024

Untitled design – 1

Mae eglwysi a mudiadau Cristnogol ar draws y Deyrnas Unedig yn paratoi ar gyfer sicrhau llais Cristnogol yn ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, a gynhelir – mae bron yn sicr – cyn diwedd 2024.

Bydd deunydd dwyieithog wedi’i addasu ar gyfer Cymru ar gael ar wefan Cytûn – https://www.cytun.co.uk/etholiad-2024/ (a bydd dolen o dudalen flaen y wefan hefyd). Yno eisoes mae gwybodaeth am y rheolau newydd ynghylch darparu dogfennau adnabod er mwyn pleidleisio, a chanllaw manwl ar drefnu cyfarfod gyda’r ymgeiswyr yn eich etholaeth – boed mewn cyfarfod cyhoeddus traddodiadol, ar lein, neu mewn nifer o fformatau mwy rhyngweithiol. Anogir grwpiau Cytûn lleol a grwpiau eraill o eglwysi i gydweithio i drefnu’r cyfarfodydd hyn, all gyfrannu llawer at drafodaeth gytbwys yn ystod yr ymgyrch.

Bwriedir ychwanegu papurau briffio am feysydd polisi gan rai o’n haelod eglwysi, a hefyd dolenni i wefannau eglwysi a mudiadau eraill all fod yn ddefnyddiol, felly dychwelwch yn rheolaidd i’r wefan i weld beth sy’n newydd yno. Mae ein cydweithwyr yn Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon yn trefnu gwefan debyg, gyda deunydd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig (yn Saesneg yn unig) – https://www.churcheselection.org.uk/

Ymhlith aelod eglwysi Cytûn sydd eisoes wedi dechrau cyhoeddi eu deunydd eu hunain ar gyfer yr etholiad mae Cymdeithas y Cyfeillion a thîm materion cyhoeddus yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr. Mae rhai o’n haelod enwadau a mudiadau yn aelodau o glymbleidiau ehangach megis Let’s End Poverty, sy’n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o dlodi gartref a thramor yn ystod cyfnod yr etholiad.

PYTIAU POLISI

Ffydd a Gwaith

Mae’r Industrial Christian Fellowship yn cynnal cyfarfod i archwilio materion ffydd a gwaith ar nos Fawrth 2 Gorffennaf yn Eglwys y Bedyddwyr Bethel, Heol Penlline, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2AA. Bydd lluniaeth ar gael o 7yh, gyda chyflwyniad a thrafodaeth o 7.30-9.30.

Bydd y cyfarfod yn cyflwyno set o fideos sy’n tynnu ynghyd themâu llyfrau Phil Jump (Arweinydd Tîm Cymdeithas Bedyddwyr Gogledd Orllewin Lloegr) Love:Work a Love@Work a chyfres o astudiaethau grŵp gan John Weaver (cyn Brifathro Coleg Bedyddwyr De Cymru, Caerdydd) dan yr enw Faith, Work and Christian Discipleship. Bydd y fideos ar gael i eglwysi a mudiadau eraill eu defnyddio. Mae rhagflas munud o hyd i’w weld ar You Tube, ac mae croeso i bawb fynychu.

Diwrnod Cofio’r Holocost 2025

Bydd 2025 yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau.

Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost wedi lansio’r thema ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost 2025 – ‘Am Ddyfodol Gwell’. Darllenwch weledigaeth y thema yma i ddysgu am y gwahanol ffyrdd y gellir ymgorffori’r thema yn eich gweithgareddau HMD 2025.

I nodi’r pen-blwydd arwyddocaol hwn, mae Ymddiriedolaeth HMD wedi lansio prosiect celfyddydau ac addysg ledled y wlad – 80 Cannwyll am 80 Mlynedd – i greu arddangosfa ddigidol o 80 o ddeiliaid canhwyllau pwrpasol a fydd yn cael eu dylunio a’u creu gan gymunedau ledled y DU sy’n arddangos bywyd unigolyn neu gymuned a erlidiwyd gan y Natsïaid.

Maent am i gymunedau o bob rhan o’r DU wneud cais, p’un a ydymt yn ysgol neu’n brifysgol, yn gymuned ffydd neu’n weithle, yn awdurdod lleol neu’n amgueddfa, yn gymuned chwaraeon neu’n oriel. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y prosiect a sut y gallwch gymryd rhan.

Cristnogion dan orthrwm ar draws y byd

Mewn cyfarfod diweddar fe glywodd Rhwydwaith Cyfiawnder Hiliol Cytûn gan ddau o’i aelodau am hanes brawychus erlid Cristnogion ym Mhacistân llynedd. Yn sgîl hynny, fe ysgrifennodd y Rhwydwaith at Ysgrifennydd Tramor y DU, yr Arglwydd Cameron, a derbyn ymateb. Dyfynnir rhan o’r llythyr (wedi ei gyfieithu gan Cytûn) yma: Roedd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) wedi dychryn o weld yr ymosodiadau yn erbyn y gymuned Gristnogol yn Jaranwala, Punjab. Mae’r DU yn sefyll mewn undod llwyr â Christnogion, a grwpiau crefyddol ymylol eraill, ym Mhacistân. Rydym yn adleisio galwad y cyn Brif Weinidog Kakar am ymchwiliad lefel uchel i’r ymosodiad ac yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth dros dro i ad-dalu’n ariannol i ddioddefwyr ac atgyweirio eglwysi sydd wedi’u difrodi. Condemniodd Gweinidog yr FCDO sy’n gyfrifol am Dde Asia, yr Arglwydd Ahmad, y trais yn gyhoeddus a galw am ddod â’r rhai oedd yn gyfrifol o flaen eu gwell. Mae’r trais ysgytwol hwn unwaith eto wedi amlygu’r erledigaeth barhaus a wynebir gan leiafrifoedd crefyddol ym Mhacistân. Hoffem eich sicrhau ein bod yn parhau i ymgysylltu ar y lefel uchaf ynghylch y mater difrifol hwn. … Mae Uchel Gomisiwn Prydain yn Islamabad yn parhau i ymgysylltu â Phacistân ar yr angen hollbwysig i sicrhau diogelwch y gymuned Gristnogol.

Mae mudiad Open Doors wedi cyhoeddi llawlyfr Rhestr Gwylio’r Byd 2024: y 50 Uchaf yn Gymraeg. Gellir ei archebu trwy Rhestr Gwylio’r Byd Cymraeg 2024: y 50 uchaf – Open Doors UK & Ireland Gellir archebu copi Saesneg trwy https://www.opendoorsuk.org/products/product/wwl24-top-50. neu (yn y ddau achos) trwy Jim Stewart jims@opendoorsuk.org.

Archwilwyr Meddygol

Yn dilyn yr oedi annisgwyl o ran cyflwyno Archwilwyr Meddygol fel rhan o’r broses cofrestru marwolaeth yng Nghymru, yr adroddwyd amdano ym Mwletin Pasg 2024, bellach mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y rheoliadau angenrheidiol gerbron Senedd Cymru, a bydd y drefn statudol newydd yn dod i rym ar 9 Medi 2024. Mae hyn yn golygu y bydd archwiliad annibynnol statudol o bob marwolaeth yng Nghymru o’r dyddiad hwnnw; yn y cyfamser bydd y cynllun anstatudol presennol yn parhau.

YSGRIFENNYDD CYFFREDINOL NEWYDD CYTÛN

Penodwyd Cynan Llwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn. Bydd yn dechrau ar ei waith ar 1af Gorffennaf. Mae’n olynu’r Parch. Siôn Brynach, sydd bellach yn offeiriad llawn-amser gyda’r Eglwys yng Nghymru.

Brodor o Aberystwyth yw Cynan ond bellach mae’n byw yn Grangetown yng Nghaerdydd. Mae’n ddiacon yn Eglwys Ebeneser Caerdydd (Annibynwyr) ac yn un o arweinwyr Angor Grangetown, un o fentrau arloesi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Yn dilyn astudiaethau academaidd, bu’n gweithio fel cynorthwy-ydd bugeiliol yn eglwysi San Mihangel a’r Santes Fair, Aberystwyth cyn cael ei benodi’n Swyddog Plant a Phobl Ifanc Llenyddiaeth Cymru. Bu’n gweithio i Cymorth Cristnogol fel Cydlynydd Rhanbarthol ac yna’n Bennaeth Dros Dro ac ar hyn o bryd ef yw Pennaeth Tearfund Cymru. Mae Gwasg Y Lolfa wedi cyhoeddi dwy nofel o’i eiddo i bobl ifanc ac mae’i drydedd nofel ar fin ei chyhoeddi gan Llyfrau Broga.

Meddai Cynan, “Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn. Edrychaf ymlaen at gyd-weithio gyda’r eglwysi yng Nghymru wrth i ni geisio ewyllys Duw gyda’n gilydd, i ni “fod yn un fel dŷn ni yn un” (Ioan 17:22). Mae’n gyfnod cyffrous a heriol i ni fel eglwysi a gweddïaf y tyfwn yn agosach at Dduw ac at ein gilydd dros y cyfnod sydd i ddod.”

CYTÛN YN NIGWYDDIADAU’R HAF 2024

Cynhelir cyfarfod yn Eglwys St Catherine ym Mhontypridd ar nos Lun, Mehefin 10fed am 7.00 er mwyn cwblhau trefniadau ar gyfer pabell Cytûn a thystiolaeth yr eglwysi yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, rhwng 3-10 Awst. Yn wahanol i’r arfer, ni fydd gennym stondin enfawr ar faes yr Eisteddfod ei hun, gan bod y maes dipyn yn llai eleni. O’r herwydd, byddwn yn defnyddio eglwys St Catherine yn y dre fel lleoliad ychwanegol er mwyn cynnig lluniaeth, oedfaon a digwyddiadau, ynghyd â nifer o arddangosfeydd a stondinau. Bydd angen tua 200 o wirfoddolwyr arnom ar gyfer yr wythnos er mwyn sicrhau tîm i baratoi te a choffi a bod wrth law i estyn croeso. Croeso cynnes i bawb.

Bydd pabell gan Cytûn a’i aelod eglwysi a mudiadau yn ôl yr arfer yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Meifod (Mai 27 – Mehefin 1) ac yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd (Gorffennaf 22-25), gyda gweithgareddau i bobl o bob oed, lluniaeth ysgafn, a chyfle i ddysgu mwy am waith Cytûn a’n haelodau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yno!

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         
www.cytun.co.uk        @CytunNew      www.facebook.com/CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Mai 20 2024. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Orffennaf 17 2024.