ANSICRWYDD AM RAGLEN DEDDFU LLYWODRAETH CYMRU 2024-26

Ar Orffennaf 9, cyhoeddodd Vaughan Gething AS, Prif Weinidog Cymru (yn y llun), raglen deddfu Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor presennol Senedd Cymru, o Fedi 2024 hyd Mawrth 2026. Wythnos yn ddiweddarach fe ymddiswyddodd tri aelod o’i gabinet a’r Cwnsler Cyffredinol, a wedyn cyhoeddodd y Prif Weinidog ei hun y byddai’n ymddiswyddo unwaith i Blaid Lafur Cymru ethol olynydd iddo fel arweinydd y blaid.

Mae cryn ansicrwydd felly ynghylch y rhaglen deddfu. Ond gallwn ddisgwyl gweld y rhan fwyaf yn cael eu cyflwyno, yn eu plith:

  • Bil Bysiau, er mwyn galluogi pob lefel o lywodraeth yng Nghymru i gydweithio i gynllunio un rhwydwaith bysiau cydgysylltiedig.
  • Bil Diogelwch Adeiladau, yn diwygio’r drefn diogelwch adeiladau yng Nghymru ac yn mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr ac uwch sy’n rhan o’r stoc adeiladau sydd eisoes yn bod. Mae hyn yn ogystal ag is-ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yng Nghymru ynghylch diwygio rheolau adeiladu yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell, ac is-ddeddfwrieth bellach a gyflwynir i weithredu diwygiadau yng Nghymru i brydlesi a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth ddiweddar yn San Steffan.
  • Bil Tomenni Nas Defnyddir (Mwyngloddiau a Chwareli), yn diwygio’r cyfreithiau ynghylch diogelwch tomenni gyda’r nod o roi mwy o sicrwydd i’r bobl sy’n byw yn eu cysgod.
  • Bil Digartrefedd, a fydd yn cynnwys diwygiadau sylweddol i helpu pobl yng Nghymru i aros yn eu cartrefi ac atal unrhyw un rhag profi digartrefedd. Fe gyhoeddir hefyd Papur Gwyn am y syniad o gyflwyno hawl i gartref digonol.
  • Bil Ardoll Ymwelwyr, a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn codi tâl ychwanegol bach ar ymwelwyr dros nos, a Bil Llety Ymwelwyr (Rheoleiddio), a fydd yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n gosod llety i ymwelwyr fodloni set berthnasol o safonau i sicrhau diogelwch ymwelwyr a gwella eu profiad. Fe fydd Cytûn yn cadw golwg manwl ar y biliau hyn, gan y gallant effeithio ar lety a gynigir mewn addoldai ar gyfer pererinion, llety a gynigir gan urddau crefyddol a chanolfannau encil, a llety a gynigir i deithiau preswyl dan nawdd eglwysi, hyd yn oed os gosodir y llety yn ddi-dâl neu am bris gostyngol.
  • Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth, a fydd yn sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol statudol i Gymru, yn sefydlu egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru ac yn cyflwyno targedau cyfreithiol i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth. Mae hwn yn Fil y bu llawer o gyrff amgylcheddol, a chlymblaid Climate Cymru y mae Cytûn yn aelod ohono, yn galw amdano ers tro. Mae cyfreithiau tebyg eisoes wedi eu pasio ar gyfer Lloegr a’r Alban.
  • Bil i gyflwyno trefn adalw ar gyfer Aelodau Senedd Cymru sy’n camymddwyn, a gwahardd twyll gan Aelodau Senedd Cymru ac ymgeiswyr mewn etholiadau i Senedd Cymru, yn amodol ar ganlyniadau ymchwiliad gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd.
  • Bil Deddfwriaeth Cymru, i ddiddymu darnau o’r gyfraith sydd bellach yn anweithredol, a ffurfioli’r dull o lunio is-ddeddfau Cymru. Tua diwedd y tymor, bydd Bil yn cael ei gyflwyno i gydgrynhoi’r gyfraith gynllunio yng Nghymru, er mwyn gwneud ymdrin â hi yn llai cymhleth.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Fil drafft Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat, ond ni chyflwynir y Bil terfynol tan y tymor nesaf.Wrth ateb cwestiynau, dywedodd y gallai Bil Tribiwnlysoedd Cymru gael ei gyflwyno, yn gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn y maes, ond nad oedd gwarant y byddai amser seneddol ar gael i wneud hynny.

Llun: Vaughan Gething yn cyflwyno rhaglen deddfu 2024-6. (Senedd.tv, Comisiwn Senedd Cymru)

DEDDFU I GYMRU YN SAN STEFFAN – ARAITH Y BRENIN

Er bod Senedd Cymru yn deddfu mewn llawer o feysydd pwysig, megis addysg a iechyd, yn San Steffan y gwneir y rhan fwyaf o ddeddfau sy’n effeithio ar Gymru. Ar Orffennaf 17 cafwyd Araith y Brenin, yn cyhoeddi nifer fawr o ddeddfau newydd, ac eraill a gyhoeddir ar ffurf drafft ar gyfer ymgynghori arnynt, ar gyfer blwyddyn gyntaf Llywodraeth newydd y DU.

Mae ambell i ddeddf, er enghraifft ym maes tai a bysus, yn ymestyn i Loegr newidiadau sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru. Ymhlith y mesurau fydd yn effeithio ar Gymru mae:

  • Dwy ddeddf i raddol wladoli’r rheilffyrdd ar draws Prydain Fawr. Nid yw’n eglur sut y bydd yn effeithio ar Drafnidiaeth Cymru, sydd wedi ei wladoli eisoes.
  • Deddf i gryfhau hawliau gweithwyr o’r diwrnod cyntaf y cânt eu cyflogi, a hawliau undebau llafur yn y gweithle, yn enwedig yn y sector cyhoeddus.
  • Deddf yn diweddaru’r gyfraith ynghylch data digidol a phwerau’r Comisiynydd Gwybodaeth.
  • Deddf i sefydlu cwmni Great British Energy i hybu datblygu ynni carbon isel (gan gynnwys ynni niwclear) a deddf i warchod ansawdd dŵr yng Nghymru a Lloegr.
  • ‘Deddf Martyn’ i fynnu bod pob man cyhoeddus – gan gynnwys addoldai – yn cymryd camau i warchod rhag terfysgaeth.
  • Diweddaru’r Ddeddf Iechyd Meddwl yng Nghymru a Lloegr – fe all hwn effeithio ar fesur o’r meinciau cefn sydd gerbron Senedd Cymru ar hyn o bryd ar yr un pwnc.
  • Ail-gyflwyno’r bil i godi’r isafswm oedran ar gyfer prynu tybaco a chyfyngu ar werthu fêps.

Ymhlith y mesurau drafft a ddisgwylir mae:

  • Bil i atal arferion “tröedigaeth” o ran rhywedd a rhywioldeb. Mae’r ddogfen gefndir i’r Araith yn addo y gwarchodir sefyllfa “arweinyddion crefyddol”, therapyddion ac ati ar yr un pryd.
  • Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) i gynyddu hawliau yn y gweithle o ran sicrhau tâl ac amodau gwaith cyfartal i bobl ar sail hil ac anabledd.

Addawyd hefyd sefydlu Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau i ddwyn ynghyd arweinyddion y pedair llywodraeth ar draws y DU ynghyd ag arweinyddion cynghorau rhanbarthol Lloegr, a diwygio gweithdrefnau Tŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin yn San Steffan.

Bydd Cytûn yn cydweithio â Gwasanaeth Cynghori Deddfwriaethol yr Eglwysi (CLAS) ac eglwysi ar draws gwledydd Prydain i fonitro’r deddfau hyn o safbwynt buddiannau a blaenoriaethau’r eglwysi.

Dechrau sgwrs gyda’ch Aelod Seneddol newydd

Yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU, mae nifer o aelodau Cytûn yn annog eglwysi lleol i gysylltu â’u Haelod Seneddol newydd i gyflwyno’u hunain a dod i adnabod ei gilydd. A chofier bod hyd yn oed Aelodau Seneddol a ail-etholwyd bellach yn gwasanaethu etholaeth gyda ffiniau newydd ac yn cynrychioli cymunedau fydd yn newydd iddynt. Ymhlith yr adnoddau ddaeth i’n sylw mae:

Danfon cerdyn at eich Aelod Seneddol – adnodd gan Dîm Materion Cyhoeddus yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr i lunio a danfon cerdyn a neges syml yn croesawu eich Aelod Seneddol newydd.

Torri Bara gyda’ch Aelod Seneddol – adnodd Cymorth Cristnogol i’ch helpu i groesawu a thrafod tlodi gyda’ch Aelod Seneddol.

Gweithredu Cyfiawnder – adnodd gan CSAN, rhwydwaith gweithredu cymdeithasol yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr. Er bod yr adnodd wedi ei ysgrifennu gyda phlwyfi Catholig mewn golwg, fe fydd llawer o’r egwyddorion yr un mor berthnasol i enwadau eraill ac i grwpiau cyd-enwadol.

Fe hoffai Cytûn hefyd glywed gennych am eich ymwneud â’ch aelodau etholedig yn San Steffan ac yn Senedd Cymru. Gallwch gysylltu â ni â’ch hanesion trwy gethin@cytun.cymru

Ymunwch â’r Daith gyda Iesu yn Wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd

Mae elusen anabledd Trwy’r To (Through the Roof), sy’n aelod o Cytûn, yn gwahodd eglwysi i ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd drwy gynnwys pobl anabl leol a chynnal gwasanaeth ar ddydd Sul 22 Medi, neu ddiwrnod o’u dewis.

Bydd yr Wythnos Ymwybyddiaeth yn dechrau ar Sul 15 Medi 2024 gyda gwasanaeth a ddangosir yn fyw ar YouTube, dan arweiniad y Parch. Helen Cameron, Llywydd y Gynhadledd Fethodistaidd. Mae Helen yn un o dros 700 o hyrwyddwyr anabledd ‘Roofbreaker’ gyda Through the Roof, sy’n gwrando ar bobl anabl mewn eglwysi lleol ac yn gweithio gyda nhw i alluogi cynhwysiant llawn. Mae’r elusen yn gobeithio y bydd pob eglwys yn enwebu ‘Roofbreaker’.

Yn ystod wythnos ymwybyddiaeth mis Medi, anogir eglwysi i ddod o hyd i ffyrdd o gwrdd â phobl anabl yn eu cymuned – bore coffi neu gyfarfod cymdeithasol, gyda choffi, gweithgareddau crefft neu gerddoriaeth y gall pawb eu mwynhau. Gallwch hefyd feddwl am eich syniadau gwych eich hun.

Mae llawer o rwystrau y gall pobl anabl eu hwynebu ar eu taith i ymuno, neu gael eu cynnwys yn llawn, yng nghymdeithas yr eglwys. Nid yn unig anawsterau mynediad i adeiladau, ond rhwystrau anweledig, megis heriau o ran ffitio i mewn yn gymdeithasol a theimlo eich bod yn perthyn yn emosiynol. Dyna gymhelliad y gwahoddiad i eglwysi ar y ‘Daith gyda Iesu’ tuag at gynhwysiant anabledd.

Mae pecyn adnoddau Wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd yn cynnwys stori fideo am y Parchedig Andrew Miles (ar y dde), gweinidog wedi ymddeol a defnyddiwr cadair olwyn o Derby y mae Duw wedi’i alw fel caplan ysbyty, gan ddefnyddio’r empathi a’r ddealltwriaeth a gafwyd o ganlyniad i’w ddamwain a’i brofiad o fyw gydag anabledd. Mae’n dweud: “Mae Duw wedi dod â mi trwy un o’r amseroedd mwyaf heriol…ac arhosodd gyda mi. A dyma fi’n gweinidogaethu o hyd, yn dal i bregethu Gair Duw, yn gweld bywydau’n newid.”

Gellir archebu pecyn adnoddau Wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd 2024 am ddim yma.

Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer Housing Justice Cymru

Mae Housing Justice, sy’n aelod o Cytûn, wedi penodi Nicola Evans (chwith) yn Gyfarwyddwr Cymru. Mae Nicola yn ymuno â Housing Justice o swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru lle bu’n Bennaeth Cyngor a Chymorth. Cyn hynny, bu Nicola’n gweithio i Cymorth Cymru, corff ymbarél Cymru ar gyfer digartrefedd a chymorth tai, a bu’n Gadeirydd Cymdeithas Tai.

Mae Nicola yn olynu Bonnie Williams a gafodd ei dyrchafu’n Brif Swyddog Gweithredol Housing Justice yn Ebrill 2024. Meddai Nicola: “Rwy’n hynod gyffrous ac yn falch o fod yn ymuno â Housing Justice Cymru, a’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yng Nghymru i gefnogi pobl sy’n ddigartref neu yn ceisio lloches. Rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan i helpu i greu cymdeithas lle mae gan bawb fynediad at gartref sy’n diwallu eu hanghenion.”

Ar 3 Gorffennaf, rhoddodd Rebecca Kentfield o brosiect Ffydd mewn Tai Fforddiadwy Housing Justice Cymru dystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd (dde), gan ddarlunio’r amryw rwystrau niferus o ran rheoliadau’r llywodraeth a wynebir wrth geisio troi adeiladau a thir eglwysig segur yn gartrefi ar gyfer y gymuned. Er gwaethaf y rhwystrau, mae cyfleoedd go iawn i wneud hynny, yn enwedig pan fydd eglwys sy’n ystyried hyn yn cysylltu â Rebecca ar eu cyfle cyntaf, trwy R.kentfield@housingjustice.org.uk

Llun o Nicola: Housing Justice; Llun o Rebecca: Senedd.tv (Hawlfraint Comisiwn y Senedd)

Pam mae gwirfoddoli yn dda i’ch iechyd

Mae cyhoeddiadau diweddar yn amlygu rôl hanfodol gwirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol, gan gynnwys eglwysi, i’w chwarae yng nghyd-destun eang iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae gwirfoddolwyr yn weithgar ym maes gofal iechyd rheng flaen, gan wella profiad cleifion, er enghraifft trwy ddarparu cwmnïaeth neu weithgareddau i gleifion mewnol. Gallant helpu i leddfu pwysau yn y system, gan alluogi cleifion i gael eu rhyddhau’n brydlon drwy gasglu presgripsiynau gan y fferyllydd neu, drwy sefydliadau gwirfoddol yn y gymuned, helpu cleifion i setlo gartref ac aros yn annibynnol wedi iddynt fod yn yr ysbyty. Mae eu rôl wrth ddarparu cludiant i gleifion neu gymorth cyntaf cymunedol yn gyswllt hanfodol mewn cadwyn o ofal iechyd.

Mae tystiolaeth gynyddol o’r effaith gadarnhaol y gall gwirfoddolwyr ei chael ar gleifion, staff ac ar ‘y system’ – sydd, fel y gwyddom, dan straen ac yn dioddef pwysau y tu hwnt i’w gallu i ymdopi. Mae papur diweddar, Gwerthoedd a gwerth gwirfoddoli – ein hased cudd, a ysgrifennwyd gan Dr Fiona Liddell ac a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Bevan, yn archwilio perthnasedd gwirfoddoli yn y system gofal iechyd heddiw (ac yfory) ac yn dadlau’r achos dros fwy o gydnabod a buddsoddi mewn gwirfoddolwyr a’r llywodraethu a’r rheoli cysylltiedig i’w cefnogi a’u cynnal.

Mae gweithgarwch gwirfoddol anffurfiol o fewn lleoliadau cymunedol yn chwarae rhan yr un mor werthfawr wrth gynnal iechyd unigolion a chymunedau ac atal afiechyd acíwt. Mae papur pellach Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dadlau bod amrywiaeth o sefydliadau annibynnol, ffyniannus, wedi’u lleoli yn y gymuned yn cyfrannu at iechyd a gofal cymdeithasol mewn llawer o ffyrdd. Prin y gallwn eu mesur ond y mae angen inni eu cydnabod ac ymddiried yn fwy ynddynt.

Mae eglwysi’n cynnig cymorth bugeiliol i’r galarus; gallant ddarparu cyfleuster galw heibio i’r rhai sy’n dioddef o ran iechyd hiechyd meddwl, fel gyda dementia, neu cynnig man lle mae’r rhai sy’n unig yn dod o hyd i gwmnïaeth, neu’n cefnogi gofalwyr. Wrth wneud hynny, maent yn chwarae rhan hanfodol yn y ddarpariaeth o ofal iechyd heddiw – yn union fel y maent wedi ei wneud erioed.

Mae canmol hefyd i werth personol gwirfoddoli. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pum ffordd bras o wella ein hiechyd meddwl: cysylltu â phobl eraill; bod yn gorfforol actif; dysgu sgiliau newydd; rhoi i eraill (gweithredoedd caredig); bod yn ymwybodol o’r foment bresennol. Nid yw’n gam rhy bell, felly, i haeru y gall gwirfoddoli fod yn llwybr i chi at iechyd personol a hapusrwydd!

Mae cyfleoedd i wirfoddoli ar gael ar y wefan wirfoddoli genedlaethol: https://volunteering-wales.net/cy, neu drwy chwilio gwefan eich bwrdd iechyd lleol.

Fiona Liddell

Strategaeth ar gyfer Croeso Cynnes

Mae’r ymgyrch Croeso Cynnes (Warm Welcome), a lansiwyd yn 2022 mewn ymateb i’r argyfwng costau byw, ac y mae’r Hybiau Cynnes mewn llawer o eglwysi yn rhan ohoni, wedi lansio strategaeth bum mlynedd newydd. Yr uchelgais fawr yw gwneud y wlad yn llawn Croeso Cynnes i Bawb.

Mae adroddiad effaith newydd ar gyfer yr ymgyrch yn dangos bod mwy na 120,000 o bobl ledled y DU wedi ymweld â Man Croeso Cynnes bob wythnos yn ystod gaeaf 2023-4, a bod Mannau Croeso Cynnes wedi derbyn mwy na 2 filiwn o ymweliadau. Fodd bynnag, dengys yr ymchwil fod 62% o’r boblogaeth yn byw o fewn taith gerdded 30 munud i ofod lleol, ond dim ond 18% o bobl ledled y DU sy’n dweud eu bod yn ymwybodol o ofod ger eu cartref. Dros y pum mlynedd nesaf, y gobaith yw cynyddu nifer y mannau Croeso Cynnes a chodi ymwybyddiaeth fel y gall pawb ddod o hyd i’w gofod lleol yn hawdd, rownd y gornel, trwy gydol y flwyddyn.

Drwy gydweithio, gall grwpiau ffydd a chymunedol o bob math sicrhau bod 100% o’r boblogaeth yn gallu dod o hyd i Fan Croeso Cynnes yn eu cymdogaeth, mewn mannau lle gall pobl o bob diwylliant, cefndir, ffydd a chefndir ddod at ei gilydd yn eu cymdogaeth. cymunedau. Gellir darllen y strategaeth yma: https://www.warmwelcome.uk/strategy

Natur a Ni

Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi Gweledigaeth Natur a Ni gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dilyn trafodaeth gyhoeddus yn cynnwys Cytûn ynghyd â llawer o fudiadau eraill. Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd ym mis Mehefin, cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd i ddathlu’r ymdrechion ledled Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.

Thema’r digwyddiad oedd ‘Arweinyddiaeth yn argyfwng yr Hinsawdd a Natur’ ac agorwyd y diwrnod yn ffurfiol gan Brif Weithredwr CNC, Clare Pillman. Yn gwmni i Clare mewn trafodaeth banel (llun ar y dde) oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS a chyn Gadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol y DU, yr Arglwydd Deben. Archwiliodd y Panel y rôl ganolog y gall y sector cyhoeddus a chyrff amgylcheddol ei chwarae wrth helpu Cymru i gyrraedd ei cherrig milltir o ran adfer yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Fe wnaeth Arpana Chunilal, a raddiodd o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, gau’r panel a bu ei hangerdd dros natur a’i galwad i weithredu hwb a gobaith i bawb.

Cyflwynodd amrywiaeth o wahanol sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru eu gwaith ar natur a’r hinsawdd, yn amrywio o Gymdeithasau Tai i’r GIG; o waith ar adfer mwyngloddiau metel i gael y cyhoedd i weithredu ar ran yr hinsawdd. Fe wnaeth rhaglen bartneriaeth Natur am Byth arddangos peth o’i gwaith ysbrydoledig i achub rhywogaethau rhag difodiant ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â chyrff anllywodraethol a chymunedau. Roedd aelodau Cynulliad Dinasyddion Natur a Ni hefyd yn bresennol yn y digwyddiad i ddysgu am waith ehangach ledled Cymru sy’n cyfrannu at 6 thema’r Weledigaeth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi alinio ei Gynllun Corfforaethol 2023-2030 â chanfyddiadau Natur a Ni. Bydd y Weledigaeth yn arwain y gwaith dros y blynyddoedd nesaf ac yn y tymor hwy. Roedd adborth gan y gynulleidfa a’r cyfranogwyr yn y digwyddiad ar 5 Mehefin yn ei gwneud yn glir bod awydd ac uchelgais eang i gydweithio mwy i fynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur, ac i greu dyfodol lle gall cymdeithas a natur ffynnu gyda’i gilydd.

I’r rhan fwyaf o eglwysi Cymru, y ffordd orau i gydio yn y weledigaeth hon mewn ffordd ymarferol fydd trwy gynllun EcoEglwys a weinyddir gan ARocha UK, sy’n aelod o Cytûn, a thrwy bartneriaethau lleol gyda mudiadau cymunedol ac amgylcheddol yn eu bro.

Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru

Cystadleuaeth Celf Ieuenctid Cymru Masnach Deg

Mae Masnach Deg yn dathlu 30 mlynedd yn y Deyrnas Unedig, a mae Cymru Masnach Deg yn cynnal cystadleuaeth gelf sy’n cyd-fynd â Pythefnos Masnach Deg (9-22 Medi 2024). Thema’r gystadleuaeth yw Masnach Deg a Dim Datgoedwigo – Sut mae Masnach Deg yn gweithio i gael effaith yn erbyn datgoedwigo? Mae’n nodi fod coedwigoedd trofannol y byd yn cael eu dinistrio ac yn chwarae rhan enfawr yn yr amddiffyniad yn erbyn newid hinsawdd. Mae Masnach Deg yn gweithio gyda chynhyrchwyr a ffermwyr cynhyrchion fel coffi a chacao i helpu i wneud coedwigoedd yn fwy gwydn a chynaliadwy.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant 4-16 oed ar draws Cymru, a’r dyddiad cau yw 23 Medi. Ceir rhagor o fanylion am y gystadleuaeth yn ddwyieithog yma, ac am Bythefnos Masnach Deg ledled y DU ar wefan Fairtrade Foundation (Saesneg yn unig).

Beth am i ysgolion Sul, clybiau gwyliau a chlybiau plant eglwysi Cymru helpu i ddathlu trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth?

Cyflwr Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ysgolion Cymru

Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym Mangor wedi lansio adroddiad am gyflwr y pwnc (Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg – CGM – dan y cwricwlwm newydd hyd at flwyddyn 8 ac Addysg Grefyddol dan yr hen gwricwlwm ym mlynyddoedd 9-11) yng Nghymru. Mae canfyddiadau’r adroddiad, yn seiliedig ar brofiadau athrawon yn yr ysgolion, yn bryderus. Crynodeb yr awduron yw: Datgelodd y canfyddiadau heriau systemaidd wrth addysgu CGM yng Nghymru, gan gynnwys materion yn ymwneud â chydymffurfiaeth gyfreithiol, gan nad yw dros hanner yr ysgolion yng Nghymru yn ateb y ddarpariaeth gyfreithiol leiaf o addysg CGM ar draws Cyfnodau Allweddol 3 a 4, ac nad oes adnoddau digonol i gefnogi’r addysg, a bod diffygion eraill yn yr addysgu.

Roedd Cytûn a chynrychiolwyr nifer o’r eglwysi a chrefyddau eraill yn bresennol pan gyflwynwyd yr adroddiad i Grŵp Trawsbleidiol Ffydd Senedd Cymru fis Mehefin. Mynegwyd cryn bryder am ddiffyg adnoddau i’r pwnc, a diffyg hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon, yn enwedig wrth i’r cwricwlwm newydd gael ei ledu i fyny’r ystod oedran yn yr ysgolion uwchradd. Roedd cynrychiolwyr y consortia addysg rhanbarthol oedd yn bresennol yn awyddus i dynnu sylw at yr hyn oedd ar gael, ond roedd hi’n amlwg nad oedd rhai athrawon yn gallu, neu’n dymuno, manteisio ar y ddarpariaeth, neu’n teimlo nad oedd yn cwrdd â’u hanghenion.

Roedd cryn drafod yn y Grŵp Trawsbleidiol am y diffyg adnoddau, yn enwedig gan mai dim ond 25 o adnoddau a achredir ar gyfer CGM ar wefan Llywodraeth Cymru, Hwb, nifer o’r rheiny wedi eu llunio ar gyfer dysgu pynciau lletach megis hawliau dynol. O ganlyniad i’r gofyn, mae gwefan ddwyieithog arall wedi ei sefydlu gan fenter y tu allan i’r llywodraeth, o’r enw RE Hubs. Rydym yn falch fod nifer o aelodau Cytûn, gan gynnwys Cyhoeddiadau’r Gair, y Cyngor Ysgolion Sul a Gwasanaeth Addysg Catholig wedi gallu ychwanegu dolenni at eu deunydd nhw i’r wefan, fel eu bod yn hygyrch i ysgolion. Mae yna ddolen hefyd i ganllawiau defnyddiol Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru ar wefan Cytûn ar gyfer eglwysi sydd am ymwneud â’u hysgolion lleol. Mae RE Hubs hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddiant arlein ar gyfer y sawl fyddai’n barod i gael eu gwahodd i ymweld ag ysgolion a siarad am eu ffydd, neu croesawu ysgolion i’w haddoldy i ddysgu mwy.

Nid Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yw’r unig bynciau lle y codir pryderon gan athrawon am ddiffyg cefnogaeth a hyfforddiant. Mewn datganiad yn Senedd Cymru ar Orffennaf 2, cyhoeddodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y byddai cefnogaeth ychwanegol ar gael i helpu ysgolion lunio eu cwricwlwm lleol newydd, yn enwedig ym maes rhifedd a llythrennedd. Ni chyfeiriwyd yn benodol at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y datganiad nac yn y drafodaeth fer a ddilynodd.

Dyma gyfle felly i eglwysi lleol gysylltu â’u hysgolion lleol i ofyn a allant fod o gymorth gydag ymweliadau ac adnoddau wrth iddynt ddatblygu eu cwricwlwm ar gyfer eu cynefin lleol, a hefyd i gynnig gofal bugeiliol i athrawon sydd dan bwysau. Credwn y bydd athrawon yn mawr werthfawrogi pob arwydd o gefnogaeth ymarferol ac ysbrydol yn eu gwaith.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         
www.cytun.co.uk        @CytunNew      www.facebook.com/CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 18 2024. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fedi 30 2024.