Grŵp o bobl yn sefyll y tu allan i Senedd Cymru || Group of people standing outside Welsh Parliament
Mynychwyr cwrs Croeso i Gymru 2022 y tu allan i Senedd Cymru || 2022 Welcome to Wales course participants outside the Welsh Parliament

Mae cwrs “Croeso i Gymru” Cytûn, a gynhelir eleni rhwng 4 a 6 Hydref 2023 yng nghanolfan Chwaraeon Cymru, Gerddi Soffia, Caerdydd yn gosod y sylfeini i Weinidogion Crefydd a gweithwyr Cristnogol sy’n symud i fyw a gweithio yng Nghymru o rannau eraill o’r DU neu yn bellach i ffwrdd.

Cwrs hyfforddi preswyl yw hwn ac mae ganddo, fel ei amcanion dysgu, cyflwyno cyd-destun eciwmenaidd Cymru, y sîn wleidyddol yng Nghymru, cyd-destun diwylliannol cyfoes a hanesyddol, lle’r iaith Gymraeg, hanes crefyddol Cymru, ysbrydolrwydd yng Nghymru a gwaith rhyng-ffydd yng Nghymru a dealltwriaeth o waith Cytûn : Eglwysi Ynghyd yng Nghymru a’i gwaith.

Yn ystod 48 awr y cwrs – wedi’i ledu dros dridiau – bydd cyfranogwyr yn clywed cyfres o anerchiadau gan siaradwyr, ond byddant hefyd yn cael cyfle i ymweld â’r Amgueddfa Werin Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan, ac adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn ogystal â chael eu cyflwyno i gerddoriaeth gyfoes Gymreig ar ffurf Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn sydd wedi ennill gwobrau (rhagor o wybodaeth am Brigyn yma).

Wrth siarad heddiw, dywedodd trefnydd y cwrs, Sasha Perriam o Cytûn:
“Mae’r cwrs hwn wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd lawer ac wedi dod yn fwyfwy poblogaidd – gyda bron i 30 o gyfranogwyr yn cymryd rhan yn 2022.
Mae’n gosod y sylfeini i weinidogion crefydd, offeiriaid a gweithwyr eglwysig sy’n symud i Gymru i ddechrau gweithio ac yn eu helpu i ddeall cyd-destun Cymru, yn ogystal â chwrdd ag unigolion eraill mewn sefyllfa debyg iddyn nhw eu hunain wrth gwrs.

“Gyda’r cwrs yn dod yn fwyfwy poblogaidd, mae ‘na alw cynyddol am lefydd, ar gyfer cyfranogwyr preswyl a rhai sy’n byw yn lleol, felly os ydych chi’n ymwybodol o gydweithwyr a allai elwa o fynychu’r cwrs hwn, yna nawr yw’r amser i’w hannog i gysylltu â ni”.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw diwedd mis Awst 2023. Mae llety ar gael ar gyfer mynychwyr y cwrs yng nghanolfan Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, neu medrant fynychu bob dydd os ydynt yn byw yn lleol.
Gofynnir i unrhyw un a hoffai gael rhagor o wybodaeth a chostau e-bostio post@cytun.cymru

DIWEDD 14 Mehefin 2023